Dydd dewi dewi hapus!
Trigeni
Gwneir angylion gwarcheidiol dadurddedig a syrthiedig (a’u hadenydd a’u cynffonnau wedi eu clipio a’u tocio) yn gyfrifol am ailweiro trydanol, goleuo addurnol a blod-drefnu gemau ffwng a mosaig seren o blanhigion crisial.
Mae’r gysgodlen haul hon sy’n tywynnu yn y tywyllwch yn goleuo, yn blodeuo’n llawn ar unwaith — ond yna’n chwythu ffiws, yn siortio, gordwymo, mynd ar dân, ffrwydro’n wenfflam a llosgi’n ulw, gan drydanu gwylwyr diniwed yn y fargen, mewn cawod o wreichion, fe’u gadewir yn syfrdan ond cyn hir, maent ymhell ar y ffordd at adferiad llwyr drachefn.
Mae a wnelo sgîl-effeithiau eraill ag ardaloedd adeileidig a feithrinwyd yn organig a garddio tirlun a beirannwyd yn fanwl-gywir, ill dau yn cydfyw ar fap anatomeg botanegol sydd eisoes dan ei sang ac sydd, ar ôl llawer o grwydro, profi a methu, colli’r ffordd a’i chael drachefn, yn gordyfu, yn ymddihatru, yn cael gwared ac yn cefnu ar, cyn cael eu traed tanynt ac ymgartrefu yn y byd allanol o’u cwmpas.
Douglas Park
Afterword, ‘Trinativity’ (English / Welsh, translated by Sian Edwards), in Ffolly, Rut Blees Luxemburg solo exhibition catalog, Ffotogallery Cardiff / Glynn Vivian Art Gallery, Swansea, 2003
No comments:
Post a Comment